Ymreolaeth gyllidol lawn i Gymru a'r Alban

Mae ymreolaeth gyllidol lawn – a adwaenir hefyd fel datganoli max, dat-uwch (devo-max), [1] neu ffederaliaeth gyllidol [2] – yn fath o ddatganoli pellgyrhaeddol a gynigir ar gyfer yr Alban a Chymru .

Mae’r term yn disgrifio trefniant cyfansoddiadol lle byddai Senedd yr Alban neu Senedd Cymru, yn lle cael grant bloc gan Drysorlys y DU fel ar hyn o bryd, yn cael yr holl drethiant a godwyd yng Nghymru neu’r Alban; byddai'n gyfrifol am y rhan fwyaf o wariant yng Nghymru neu'r Alban ond byddai'n gwneud taliadau i lywodraeth y DU i dalu am gyfran yr Alban neu Gymru o'r gost o ddarparu rhai gwasanaethau penodol i'r DU gyfan. Byddai hyn yn cynnwys amddiffyn a chysylltiadau tramor yn bennaf. Fel arfer hyrwyddir ymreolaeth gyllidol yr Alban/Cymru gan rai sydd yn cefnogi Teyrnas Unedig ffederal .

  1. "Embrace devo-max, Labour told". The Scotsman. 26 October 2011. Cyrchwyd 15 November 2011.
  2. MacDonald, Ronald; Hallwood, Paul (July 2004). "The Economic Case for Fiscal Federalism in Scotland". Working papers. Stamford: University of Connecticut, Department of Economics. t. 95. Cyrchwyd 18 November 2011.

© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search